Ofn |

Gweithgaredd 4: Nodweddion arddull ac effaith y nodweddion

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y rhestr. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos.

Ofn

'Terrorism can hit us anywhere from any place.'

– Gordon Brown

Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd,
a rhyddid wedi’i fygwth ar bob tu,
pan fo cysgodion ar y ffyrdd i gyd
a phob un cornel stryd yn gysgod du,
pan nad oes dim ond dychryn ar y sgrîn
a dim ond nos yr ochr draw i’r llen,
pan fo pob ffrind yn sinistr a blin
a’r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben,
diffoddwch y teledu am y tro,
agorwch lenni’r lolfa led y pen,
cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
i dorri drwy hualau’r ofnau sydd
yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

Hywel Griffiths

. Pa nodwedd arddull sydd yma?
Allwch chi feddwl pam mae’n effeithiol?
Cliw?
Beth mae ‘du’ yn ei gynrychioli i chi?
Rhowch ansoddeiriau i ddisgrifio’r darlun arferol sydd gennym ni o ffrind. Ydyn nhw’n wahanol i ‘sinistr’ a ‘blin’?
Beth yn union y mae’r bardd yn ei ddweud sydd ‘fel cyllell wen’? Yn eich barn chi, beth mae'n ei olygu yma?
Beth yw’r cyferbyniad arferol i 'rhyddid'? Ai ceisio ein cadw’n saff er ein mwyn ein hunain y mae’r rhai sydd mewn grym?