Cyfarwyddiadau
Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?
Gweld y Gorwel
Yn rehab y colli nabod — sŵn traed
sy’n troi’r awr ddiddarfod,
sŵn y byw diflasa’n bod.
Yn rehab, bod yw’r rheol, — bod drwy’r dydd,
bod drwy’r daith hunanol
wna druggie’n dod o’i rigol.
Yn rehab o dan label, — yn nheilchion
ergydion ei gawdel,
gwrid ei gariad yw gorwel.
Sŵn y dydd yw hi sy’n dod — o’r nosau,
rhanna ias cyfarfod,
y sŵn byw melysa’n bod.
Aneirin Karadog
Mae popeth da yn dod i ben.
Fe ddaw eto haul ar fryn.
Mae’n bwysig gwerthfawrogi bywyd.
Mae bod yn gaeth yn beth gwael.