Cyfarwyddiadau
Edrychwch yn ofalus ar y llun. Ydych chi'n gallu dweud am ba ran o'r gerdd y mae'n sôn? Os nad ydych yn sicr, pwyswch 'Cliw'. Os oes angen cymorth pellach arnoch, pwyswch 'Dangos y gerdd'. Cliciwch ar y dyfyniad yn y gerdd. Wedi ateb yn gywir gallwch symud i'r llun nesaf.
Gweld y Gorwel
Yn rehab y colli nabod — sŵn traed
sy’n troi’r awr ddiddarfod,
sŵn y byw diflasa’n bod.
Yn rehab, bod yw’r rheol, — bod drwy’r dydd,
bod drwy’r daith hunanol
wna druggie’n dod o’i rigol.
Yn rehab o dan label — yn nheilchion
ergydion ei gawdel,
gwrid ei gariad yw gorwel.
Sŵn y dydd yw hi sy’n dod — o’r nosau,
rhanna ias cyfarfod,
y sŵn byw melysa’n bod.
Aneirin Karadog