Cyfarwyddiadau
Darllenwch y gerdd.
Eifionydd
O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o'r pridd.
Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win:
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.
A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.
O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.
R. Williams Parry
