EIFIONYDD |

Gweithgaredd 5: Ble mae’r ansoddeiriau yn y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Chwiliwch am yr ansoddeiriau yn y gerdd. Defnyddiwch y pin ysgrifennupen i’w nodi ar y gerdd ei hun. I wirio’ch atebion, teipiwch y geiriau fesul un yn y blwch gwyn ac yna cliciwch ar y botwm 'Gwirio'. I fewnbynnu llythyren sy'n cynnwys acen grom, cliciwch ar y botymau llythrennau.

Eifionydd

O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o'r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win:
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.

R. Williams Parry