EIFIONYDD |

Gweithgaredd 4: Nodweddion arddull ac effaith y nodweddion

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y rhestr. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos.

Eifionydd

O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o'r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win:
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,

O fwa’i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol

A dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.

R. Williams Parry

. Pa nodwedd arddull sydd yma?
Allwch chi feddwl pam mae’n effeithiol?
Cliw?
Beth mae’r geiriau 'staen' a 'craith' yn ei awgrymu i chi? At ba ardal mae’r geiriau'n cyfeirio?
Meddyliwch am wahanol bethau yn yr ardal a allai fod yn rhoi’r ‘blas’ hwn?
Pam rydych chi’n meddwl mae’r bardd yn defnyddio’r gair ‘gorffenedig’?
Rhestrwch y gwahaniaethau y gallwch chi feddwl amdanynt rhwng ardal enedigol y bardd ac Eifionydd.