Cyfarwyddiadau
Edrychwch ar yr awgrymiadau am neges y gerdd. Trefnwch yr awgrymiadau drwy lusgo'r rhai gorau yn eich barn chi i frig y rhestr. Oes gennych chi awgrymiadau eraill?
Eifionydd
O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o'r pridd.
Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win:
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.
A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.
O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.
R. Williams Parry
Man gwyn, man draw.
Mae bod ar eich pen eich hun yn beth da.
Mae gan bob ardal ei phroblemau.
Mae gan bawb y gallu i weld rhyfeddodau.
Mae hi’n braf cael dianc weithiau.