EIFIONYDD |

Gweithgaredd 2: Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun?

Cyfarwyddiadau

Edrychwch yn ofalus ar y llun. Ydych chi'n gallu dweud am ba ran o'r gerdd y mae'n sôn? Os nad ydych yn sicr, pwyswch 'Cliw'. Os oes angen cymorth pellach arnoch, pwyswch 'Dangos y gerdd'. Cliciwch ar y dyfyniad yn y gerdd. Wedi ateb yn gywir gallwch symud i'r llun nesaf.

Eifionydd

O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o'r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win
:
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed
,
O fwa’i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn
;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytûn.

R. Williams Parry

Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun?
Cliw?
Ond lle … ar y ffridd
Mae yno … hen win
A llonydd … y Lôn Goed
O’m dyffryn … y byd a wn
Neu gydag … cytûn