Cyfarwyddiadau
Mae rhestr o’r geiriau coll ar ymyl dde’r sgrin. Cliciwch ar flwch glas yn y gerdd ac yna cliciwch ar y gair cywir uwch ei ben i’w osod yn y bwlch. Wedi llenwi’r holl fylchau, cliciwch ar y botwm 'Gwirio'. Gallwch ailymweld â’r dasg i newid ateb anghywir, cyn gwirio eto.
Eifionydd
O olwg Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r pêr o'r pridd.
Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y
Yn aros fel hen win:
Hen, hen yw llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.
A gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I'w dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.
O! mwyn yw cyrraedd canol
Y gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio'i wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, .
R. Williams Parry
- cynfyd
- cytûn
- glaslawr
- gwanwyn
- hagrwch
- heddwch
- llonydd
- murmur
- staen
- tawel