Cyfarwyddiadau
Cliciwch ar y tabiau i ddysgu am y gwahanol fesurau. Edrychwch yn ofalus ar y gerdd. Dewiswch pa fesur y mae’r gerdd yn ei ddefnyddio drwy glicio yn y cylch oren. Cliciwch ar y botwm 'Gwirio' i weld a oeddech ydych yn gywir.
- Mae patrwm arbennig i’r gerdd.
- Mae’r llinellau’n odli fesul cwpled, neu mae llinell 2 a 4 o bob pennill yn odli.
- Mae’r penillion yn dilyn yr un mydr neu’r un rhythm â’i gilydd.
- Nid oes cynghanedd fel arfer mewn cerdd mewn mydr ac odl.
- Pennill o dair llinell yw englyn milwr.
- Mae diwedd pob llinell o fewn pob pennill yn odli, ond gall yr odl fod yn acennog neu’n ddiacen.
- Mae saith sillaf ym mhob llinell.
- Mae cynghanedd yn llinell 1 a 3, ac mae’r darn ar ôl y gwant yn cynganeddu â dechrau’r ail linell.
- Mae englyn penfyr yn union yr un peth ag englyn arferol, sef pennill pedair llinell, ond heb y llinell olaf.
- Mae toriad byr (gwant) tua dwy ran o dair y ffordd i mewn i’r llinell gyntaf.
- Mae’r gair cyn y gwant yn odli â llinell 2 a 3. Mae cynghanedd ym mhob llinell.
- Mae 14 llinell mewn soned.
- Mae’n dilyn y patrwm odli: a,b,a,b c,ch,c,ch d,dd,d,dd e,e.
- Mae deg sillaf ym mhob llinell.
- Mae newid cyfeiriad yn arferol rhwng yr wyth llinell gyntaf (yr wythawd) a’r chwe llinell olaf (y chwechawd).
- Nid oes trefn arbennig i’r odli nac i nifer y sillafau.
- Mae mydr neu rythm o fewn y gwahanol linellau, ond nid oes patrwm amlwg yma.
- Mae cynghanedd ym mhob llinell.
Y Coed
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.
Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn,
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd nac wrn.
Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw,
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw.
Ni chlywem ni na chlychau’r eglwys na mŵesin y mosg,
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.
Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân,
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân.
Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amân
Fforestydd o goed i gofio?
Ond ni allwn ni gondemnio’r Natsïaid na’r Iddewon ychwaith
Canys fe droesom o’r awyr Dresden yn un uffern faith;
A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.
O’r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,
Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.
A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a’r rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.
A phan ddaw’r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo’r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,
Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw’r Efengyl yn ei oes.
Daw’r tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond coedwig y marwolaethau’n aros a fyddant hwy, er hyn.
Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint,
Fe wêl y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.
David James Jones (Gwenallt)