Cyfarwyddiadau
Mae rhestr o’r geiriau coll ar ymyl dde’r sgrin. Cliciwch ar flwch glas yn y gerdd ac yna cliciwch ar y gair cywir uwch ei ben i’w osod yn y bwlch. Wedi llenwi’r holl fylchau, cliciwch ar y botwm 'Gwirio'. Gallwch ailymweld â’r dasg i newid ateb anghywir, cyn gwirio eto.
Y Coed
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a yn y ffyrnau nwy.
Coed sydd yn estyn eu i ganol lludw pob ffwrn,
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd nac wrn.
Chwithig oedd gweled y cangau fel byw,
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw.
Ni chlywem ni na chlychau’r eglwys na mŵesin y mosg,
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.
Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân,
Canys yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân.
Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amân
Fforestydd o goed i gofio?
Ond ni allwn ni gondemnio’r Natsïaid na’r Iddewon ychwaith
Canys fe droesom o’r awyr Dresden yn un faith;
A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.
O’r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,
Yr ugeinfed yw’r fwyaf ohonynt hwy i gyd.
A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a’r rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.
A phan ddaw’r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo’r llosg, na rhifo ychwaith y coed.
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,
Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw’r Efengyl yn ei oes.
Daw’r i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond y marwolaethau’n aros a fyddant hwy, er hyn.
Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint,
Fe wêl y honno nad oeddem ni yn llawer o saint.
David James Jones (Gwenallt)
- barbaraidd
- coedwig
- cofgolofnau
- diddymodd
- genhedlaeth
- gwreiddiau
- lladdedigion
- losgwyd
- tymhorau
- uffern