Rhannwch y myfyrwyr yn bump o grwpiau a rhowch lechen (cyfrifiadur tabled) i bob grŵp. Rhowch un o'r pump o setiau o broblemau i bob grŵp. Gofynnwch iddyn nhw lenwi blychau uchaf y ddwy broblem sydd ganddyn nhw – h.y. awgrymu polisi i ddatrys y broblem a nodwyd.
Yna, casglwch y llechi a'u rhoi i grŵp gwahanol (mae gan bob grŵp bolisi grŵp arall nawr). Eu tasg nawr yw meddwl am ffyrdd y gallai hyn fethu.
Ewch o amgylch y grwpiau a dewis rhai ohonyn nhw i roi adborth am y problemau posibl gyda'r polisïau dan sylw.
Mae gan 'Methiant y llywodraeth – adnodd i'w ddefnyddio o flaen y dosbarth' rai enghreifftiau o achosion lle mae pethau'n mynd o'i le er mwyn pwysleisio'r pwynt. Yna, gallwch chi grynhoi gyda diffiniad cyflym o fethiant y llywodraeth a'r ffyrdd y gall hyn ddigwydd.
Problem 1A. Pobl yn yfed gormod o alcohol.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 1B. Llywodraeth UDA yn cael trafferth â gwelyau o China yn cael eu gadael, gan fynd â 58% o werthiant marchnad ddodrefn UDA.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 2A. 1. Pŵer monopolaidd yn y DU o ran hawliau darlledu pêl-droed ar y teledu. BSkyB sy'n berchen ar yr holl hawliau.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 2B. Anghydraddoldeb cynyddol yn economi'r DU.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 3A. Tagfeydd ar ffyrdd y DU.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 3B. Gormod o lygredd yn yr amgylchedd.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 4A. Pobl yn peidio â chael brechiad i atal ffliw moch.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 4B. Cwmnïau gwasanaethau fel British Gas yn codi gormod ar gwsmeriaid.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 5A. Deintyddion preifat yn ecsploetio cleifion sydd â diffyg gwybodaeth.
Gweithred y llywodraeth i ddatrys y broblem.
Sut mae gweithred y llywodraeth yn mynd i fethu?
Problem 5B. Cyfraddau diweithdra yn rhy uchel.