Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Cyffuriau diangen?
A oes methiant wedi bod ym mholisi’r llywodraeth yn sgil ffliw moch?
Yn yr argyfwng yr haf diwethaf, lluniodd y llywodraeth gontract i brynu 120 miliwn o frechiadau gan y ddau wneuthur GlaxoSmithKline a Baxter. Cafodd yr archeb ei lleihau i 44 miliwn wrth i’r argyfwng leddfu. Dim ond 6 miliwn o’r rheini sydd wedi cael eu defnyddio, mae bron i 4 miliwn yn cael eu rhoi i Sefydliad Iechyd y Byd i’w defnyddio yn Affrica, gan adael 34 miliwn ar y silff.
Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Bylbiau golau sy’n arbed egni
Yn 2008, fe wnaeth y llywodraeth orchymyn y cwmnïau egni mawr i fuddsoddi mewn mesurau i wella effeithlonrwydd egni a lleihau tlodi tanwydd.
O ganlyniad, postiwyd 12 miliwn o fylbiau golau egni isel i gartrefi dros y Nadolig gan gwmni egni, fel rhan o’i ymrwymiad cyfreithiol i leihau allyriadau carbon, er gwaethaf cyngor y llywodraeth na fyddai’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu defnyddio. Mae dros 180 miliwn o fylbiau golau wedi cael eu dosbarthu, ac mae’r rhan fwyaf yn casglu llwch yn ein cypyrddau.

Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Gorddefnyddio’r GIG
Mae 20% o ymweliadau â’r meddyg teulu yn ymwneud â pheswch ac annwyd cyffredin. Mae hyn yn costio £2bn y flwyddyn i’r GIG, heb wneud unrhyw wahaniaeth i iechyd pobl. Mae’r GIG wedi dod yn ddioddefwr diwylliant a gaiff ei arwain gan alw. Dylai £10 yr ymweliad fod yn ddigon i newid meddwl y bobl hyn.

Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Gwresogyddion patio
Ar ôl cyflwyno’r gwaharddiad ysmygu yng Ngogledd Iwerddon, mae cynnydd wedi bod yn nifer y bariau a’r bwytai sy’n darparu gwresogyddion patio ar gyfer cwsmeriaid sydd am ysmygu y tu allan. Amcangyfrifir y byddai 91,000 o wresogyddion patio yng Ngogledd Iwerddon yn allyrru’r un faint o CO2 bob blwyddyn â gyrru o Belfast i Sarn y Cewri ac yn ôl 116,000 o weithiau.

Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Diweithdra
Roedd y Fargen Newydd 25+ yn rhaglen “o fudd-dâl i waith” orfodol a sefydlwyd yn 1998. Ei nod oedd helpu pobl 25 oed a throsodd a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir i wella eu rhagolygon gwaith a dod o hyd i swyddi. Er gwaethaf gwario £69m, yn ôl y PAC, roedd yr Adran Cyflogaeth a Dysgu yn mabwysiadu dull “un ateb sy’n addas i bawb”, ac nid oedd yn rhoi sylw i broblemau sylfaenol. Roedd y gyfradd fethu yn 80%.

Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Biwrocratiaeth
Mae biwrocratiaeth ddiangen yn costio £4.5bn y flwyddyn i gynghorau yn Lloegr – arian y gellir ei wario ar wasanaethau lleol hanfodol, yn ôl adroddiad penodol.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol y dylid cynnal “coelcerth o dâp coch” i ryddhau arian y bobl sy’n talu trethi.
Dywedodd fod costau rhedeg uwch a niferoedd staff yn y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod pob cartref yn Lloegr yn talu o leiaf £11 yn fwy na sydd angen.

Agorwch a darllenwch ‘Methiant y llywodraeth – adnodd i fyfyrwyr’ cyn defnyddio’r adnodd hwn.
Lladd adar y to
Enghraifft dda o fethiant llwyr y llywodraeth (yn Almaeneg ond mae isdeitlau Saesneg):