Er mwyn deall syniad nwyddau rhinwedd yn llawn, mae'n rhaid i fyfyrwyr fod wedi astudio'r syniad o fuddion allanol o'r blaen – y syniad na fydd digon o alw am rai nwyddau ar y farchnad rydd oherwydd bod galw defnyddwyr yn seiliedig ar eu buddion preifat yn hytrach na'r budd cymdeithasol llawn (budd preifat yn ogystal â budd allanol). Felly, bydd y farchnad rydd yn debygol o danddarparu'r mathau hyn o nwyddau (sy'n arwain at fethiant y farchnad a cholli lles). Un senario defnyddiol i archwilio rhai o'r syniadau hyn yw'r GIG, sy'n amlwg yn cael ei ddarparu am ddim ar y pwynt defnyddio. Un dull yw dangos y clipiau fideo byr canlynol: Gofynnwch i'r myfyrwyr wylio'r ffilmiau, yna mewn grwpiau bach, trafodwch rinweddau perthynol marchnadoedd o'u cymharu â darpariaeth y wladwriaeth o ran iechyd, cyn gofyn i'r myfyrwyr roi adborth i weddill y dosbarth o ran beth maen nhw'n ei feddwl.

Adrannau damweiniau ac achosion brys mewn argyfwng

Y farn am y GIG dramor

Costau gofal iechyd UDA 1


Costau gofal iechyd UDA 2