Darllenwch y canllaw i athrawon cyn defnyddio'r adnodd hwn. Rhannwch y myfyrwyr yn barau neu'n grwpiau o dri a rhowch y grid i'w argraffu a'r lluniau i'w torri iddyn nhw.
Yna gofynnwch i'r myfyrwyr benderfynu ym mhob achos:
- lle i roi pob un o'r nwyddau neu wasanaethau ar y grid;
- beth yw'r budd neu'r gost allanol;
- ar bwy y mae'r budd neu'r gost allanol yn cael effaith a pham;
- pam mae pob un yn broblem ar gyfer marchnad rydd (y syniad sylfaenol yw gorddefnyddio/tanddefnyddio).
Gofynnwch iddyn nhw ddod at y bwrdd gwyn i ddefnyddio'r adnodd rhyngweithiol i ddangos i chi sut maen nhw wedi gosod y nwyddau neu'r gwasanaethau ar y grid.
Ysmygu
Cynhyrchu pŵer
GSK
Addysg
Starbucks
Llygredd diwydiannol mewn afonydd
Facebook
Cwrw
Iechyd
Cost allanol
Budd allanol
Defnyddio
Cynhyrchu
- Iechyd: Budd allanol wrth ddefnyddio (llai o haint, effaith ar fusnesau yn sgil gweithlu mwy iach).
- Addysg: Budd allanol wrth ddefnyddio (gweithlu â gwell sgiliau, llai o gostau hyfforddi ar gyfer cwmnïau).
- Facebook: Budd allanol wrth ddefnyddio (effeithiau rhwydweithio – mae un defnyddiwr ychwanegol yn ei wneud yn fwy gwerthfawr i ddefnyddwyr parod. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod elfennau negyddol hefyd).
- Ysmygu: Cost allanol wrth ddefnyddio (ysmygu goddefol, baich ar y GIG).
- Cynhyrchu pŵer: Cost allanol wrth gynhyrchu (allyriadau CO2 yn achosi llifogydd rhywle arall yn y byd etc.).
- GSK: Budd allanol wrth gynhyrchu: (mae gwaith ymchwil a datblygu yn gwneud elw ar gyfer GSK, ond mae o fudd i drydydd parti hefyd wrth iddyn nhw ddod o hyd i iachâd ar gyfer clefydau).
- Starbucks: Mae hyn yn ddadleuol iawn. Budd allanol wrth gynhyrchu (Wi-Fi am ddim – gellir dibynnu ar bobl eraill). Cost allanol wrth ddefnyddio (sbwriel etc.).
- Cwrw: Cost allanol wrth ddefnyddio: (Ymddygiad gwrthgymdeithasol, baich ar y GIG).
- Llygredd diwydiannol mewn afonydd: Cost allanol wrth gynhyrchu.