Mae hwn yn ymarfer lluniadu er mwyn i'r myfyrwyr weld pam mae nwyddau cyhoeddus yn fethiant yn y farchnad mewn marchnad rydd.

Rhowch y myfyrwyr mewn parau gyda bwrdd gwyn bach. Dangoswch y clip amddiffynfeydd llifogydd iddyn nhw.

Gofynnwch iddyn nhw luniadu'r echelinau hyn ar eu byrddau gwyn, yna lluniadu llinell sy'n cynrychioli'r gost o wneud pob km o forglawdd (cost ymylol).

Lluniadwch linell sy'n cynrychioli'r gost o wneud pob km o forglawdd (cost ymylol).
Lluniadwch linell sy'n dangos budd adeiladu km ychwanegol o forglawdd rhywle yn y DU (budd ymylol). Cofiwch y byddwn ni'n adeiladu yn yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd yn gyntaf.
Sawl km o forglawdd dylen ni ei adeiladu? Dangoswch hyn ar eich graff.

Mae gwarged cymunedol yn cael ei uchafu ar M1 (y triongl)

Faint fydd yn cael ei wneud mewn marchnad rydd?