Nod yr ymarfer hwn yw i fyfyrwyr werthuso uchafbrisiau yng nghyd-destun tai a dangos nodweddion allweddol trwy ddefnyddio diagramau. Fel cyflwyniad, chwaraewch y clip hwn o'r effaith y cafodd y corwynt. Rhannwch y myfyrwyr yn barau, a rhowch gopi iddyn nhw o'r daflen waith rheoli rhent. Dylen nhw ateb y cwestiynau gyda'i gilydd.
Gan ddefnyddio diagram, dangoswch sut gallai effaith Corwynt Katrina fod wedi gwthio pris rhent i fyny yn New Orleans.

Ar ddiagram newydd, dangoswch effaith uchafbris o dan y cydbwysedd ar y cyflenwad a'r galw.
