Y nod yma yw ceisio penderfynu pam mae prisiau nwyddau amaethyddol a nwyddau cynradd eraill mor gyfnewidiol. Dechreuwch trwy ddangos y siart hwn, sy'n edrych ar gyfnod o 20–30 mlynedd.

Rhannwch y myfyrwyr yn barau a gofynnwch iddyn nhw feddwl am resymau posibl am yr amrywiad hwn. Mae'n siŵr y byddan nhw'n meddwl am gyfnewidioldeb y cyflenwad, ac efallai y bydd rhai yn meddwl am PED a PES isel hefyd.

barley monthly price
Ffynhonnell yr URL: 'www.indexmundi.com'

Dangoswch y clipiau canlynol i'r myfyrwyr. Ar ôl pob clip, gofynnwch i'r myfyrwyr luniadu (mewn parau) diagram cyflenwad a galw i geisio esbonio beth sy'n digwydd, yn eu barn nhw. Cyfeiriwch at y pdf ar Gyfnewidoldeb Prisiau.

Cliciwch ar y ddelwedd i agor fideo mewn ffenestr newydd.
Coffi
Sychder ym Mrasil yn effeithio ar y diwydiant coffi – Fideo
Ffynhonnell yr URL: 'BBC News'
Sudd oren
Prisiau sudd oren yn disgyn wrth i alw yn yr U.D.A. ostwng – Fideo
Ffynhonnell yr URL: 'www.bloomberg.com'
Chocfinger
Hapfasnachwr yn y farchnad goco yn ceisio dominyddu’r farchnad – Fideo
Ffynhonnell yr URL: 'BBC'