Rhannwch y myfyrwyr yn barau/grwpiau bach ac yna gofynnwch iddyn nhw beth fydd effaith cwymp o 20% ym mhris y cynnyrch cyntaf ym mhob pâr ar y galw am yr ail gynnyrch, yn eu barn nhw. Gallwch ddewis o'r dewislenni yn y golofn galw.
Ar ôl iddyn nhw wneud hyn, gofynnwch am safbwyntiau grwpiau gwahanol, gan drafod lle mae'r gwahaniaethau rhwng grwpiau (bydd rhywun yn siŵr o wneud rhyw fath o gysylltiad ffug rhwng ceir a bananas!).
O'r fan hyn, dylai fod yn hawdd cyflwyno'r syniad o amnewidion a chyfategolion, arwydd XED a'r ffaith y gall y berthynas fod yn gryfach neu'n wanach mewn achosion gwahanol.
| Cwymp o 20% ym mhris | Effaith ar y galw | Newid yn y galw... | |
|---|---|---|---|
| 1 | Petrol | Ceir | |
| 2 | Te | Coffi | |
| 3 | Xbox 1 | Call of Duty | |
| 4 | Petrol BP | Petrol Shell | |
| 5 | Xbox 1 | Playstation 4 | |
| 6 | Ceir | Petrol | |
| 7 | Ceir | Beiciau modur | |
| 8 | Ceir | Bananas | |
| 9 | Bananas | Afalau | |
| 10 | Teithiau bws | Ceir | |
| 11 | Evian | Volvic | |
| 12 | Iphones | Lawrlwythiadau Itunes | |