Rhannwch y dosbarth yn barau a gofynnwch iddyn nhw roi cynhyrchion ar y llinell yn nhermau pa mor hawdd fyddai cynyddu'r cyflenwad pe bai pris uwch yn cael ei gynnig.
Gofynnwch iddyn nhw gyfiawnhau eu syniadau a gweld a oes unrhyw anghytuno.
Yna, gofynnwch iddyn nhw weithio mewn grwpiau i feddwl am restr o ffactorau a fydd yn ei gwneud yn anoddach neu'n haws newid y cyflenwad. Mae ganddyn nhw bellach y ffactorau sy'n effeithio ar PES.
Rhesymeg:
- Tyrbinau gwynt: Anelastig fel yn y fideo.
- Dillad: Eithaf elastig – mae'n bosibl dal stoc, mae'n hawdd cynyddu maint y stoc o ystyried y capasiti ychwanegol sydd ar gael, ond mae'n bosibl y byddan nhw'n dod o Asia (felly bydd problemau SR/LR).
- Aur: Anelastig, ond mae'n bosibl y bydd stociau ar gael.
- Bariau Mars: Fel dillad, ond bydd mwy o stoc yn y DU.
- Teithiau bws: Anelastig – ni chewch chi greu llwybrau bws newydd na newid yr amserlen. Mae'n bosibl y bydd yn cymryd amser i gaffael bysiau newydd hefyd.
- Tai: Anelastig – mae angen cynllunio (ond mae cyflenwad o dai sy'n bodoli'n barod – mae'n bosibl y bydd y bobl sy'n barod i werthu yn elastig).
- iPhone: Fel dillad, ond wrth eu lansio, mae'r rhain yn gweithredu yn agos i'r capasiti, felly mae'n bosibl eu bod yn anelastig.
- Lawrlwythiadau iTunes: Cwbl elastig.
- Olewydd: Eithaf anelastig.
- Y Mona Lisa: Cwbl anelastig.
Ar ôl hyn, gofynnwch iddyn nhw weithio mewn parau i lunio cromliniau cyflenwad ar gyfer:
- Olewydd
- Lawrlwythiadau cerddoriaeth
- Y Mona Lisa
- Dillad.
Dylai hyn gysylltu'r syniad o PES yn ôl i'r diagramau.