Dylai myfyrwyr weithio mewn parau/grwpiau bach i astudio'r tabl ac ateb y cwestiwn.
Sylwadau:
Mae'n ymddangos bod diodydd alcohol a thybaco yn israddol rhwng 1970 a 2008, ond mewn gwirionedd, mae'r galw yn debygol o fod yn lleihau o ganlyniad i ffactorau eraill yn hytrach nag incwm. Mae'n debyg bod categorïau eraill, fodd bynnag, yn dweud rhywbeth am elastigedd incwm, gyda bwyd, tai a hamdden yn ymddwyn yn ôl y disgwyl.
Tabl 6.3 Cyfaint gwariant cartref: fesul pwrpas Y Deyrnas Unedig
Rhifau mynegai (1970=100)
1970 | 1981 | 1991 | 2001 | 2008 | 2013 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Bwyd a diodydd heb fod yn alcohol | 100 | 105 | 117 | 137 | 149 | 142 |
Dillad ac esgidiau | 100 | 122 | 190 | 350 | 520 | 670 |
Tai, dŵr a thanwydd | 100 | 118 | 141 | 154 | 163 | 171 |
Gwasanaethau a nwyddau i'r cartref | 100 | 122 | 167 | 274 | 300 | 273 |
Iechyd | 100 | 126 | 185 | 191 | 233 | 221 |
Cludiant | 100 | 142 | 200 | 273 | 325 | 304 |
Cyfathrebu | 100 | 191 | 308 | 795 | 1,132 | 1,073 |
Hamdden a diwylliant | 100 | 169 | 298 | 581 | 930 | 961 |
Addysg | 100 | 162 | 202 | 258 | 231 | 199 |
Bwytai a gwestai | 100 | 132 | 175 | 202 | 211 | 194 |
Incwm Cenedlaethol | 100 | 125 | 174 | 240 | 284 | 278 |
Cwestiwn 1
Beth ddigwyddodd i'r incwm cenedlaethol rhwng 1970 a 2008? Beth am rhwng 2008 a 2013?
Cwestiwn 2
O ystyried hynny:
a. Pa nwyddau sy'n elastig ac yn anelastig o ran incwm, i bob golwg?
b. Pa nwyddau sydd â YED positif a negatif, i bob golwg?
c. Dewiswch dri o nwyddau a cheisiwch esbonio'r rhesymau posibl am hyn.
Cwestiwn 3
Edrychwch ar y rhifau mynegai:
a. Pam eu bod nhw i gyd yn '100’ yn 1970?
b. Beth mae'r rhifau, felly, yn ei olygu yn y blynyddoedd diweddarach?
Gofynnwch i’r myfyrwyr ddarllen y ddwy stori newyddion ac ystyried y canlynol:
- 1) A yw YED yn ymddangos yn +if neu'n –if (+if ar gyfer teithio, –if ar gyfer pizzas Dominos, mae'n debyg).
- 2) Pa mor elastig yw'r YED i bob golwg (mwy na/llai na'n gyfrannol).
- 3) Mewn gwirionedd, faint o'r newid sydd o ganlyniad i'r dirwasgiad a faint sydd o ganlyniad i ffactorau eraill (e.e. yr ymgyrch hysbysebu gan Dominos).
Cliciwch ar eitem newyddion i'w darllen
Erthygl 1 - Ffynhonnell yr URL: This is MONEY.co.uk
Mae faint o betrol sy'n cael ei werthu ar y cwrt blaen yn y DU wedi gostwng eleni, yn ôl y ffigurau swyddogol, wrth i fodurwyr tlawd [modurwyr sydd â llai o incwm gwario oherwydd colli swyddi a thoriadau cyflog yn ystod y dirwasgiad] beidio â theithio cymaint.
Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC: Department of Energy and Climate Change), gwerthwyd bron i 500 miliwn litr yn llai o betrol rhwng mis Ebrill a mis Mehefin o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Daeth y cwymp er gwaethaf gostyngiad yn y pris o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

Ffynhonnell yr URL: 'Newyddion y BBC'
Ar gyfer hanner cyntaf 2012, mae'r ystadegau'n dangos y gwerthwyd dros ddau biliwn litr yn llai o betrol a diesel ar y cwrt blaen, o'u cymharu â'r un cyfnod yn 2008 – cyn y dirwasgiad.
Ddoe, roedd gwaith ymchwil gan Moneysupermarket yn dangos bod nifer cynyddol o fodurwyr yn rhoi'r gorau i fynd allan a phrynu dillad er mwyn helpu i gadw eu ceir ar y ffordd. …
Mae ffigurau'r DECC ar gyfer gwerthiant petrol yn dangos y baich sydd ar yrwyr ceir ers yr argyfwng ariannol. Yn chwe mis cyntaf 2008, cyn i'r dirwasgiad gyrraedd y DU, roedd gwerthiant adwerthu petrol a diesel wedi cyrraedd 18.97 biliwn litr.
Yn hanner cyntaf y flwyddyn hon, gwerthodd adwerthwyr 16.7 biliwn litr – cwymp o 12 y cant. …
Ychwanegodd Mr [Edmund] King [llywydd yr AA]: ‘Mae'n rhaid i gwymp o 2.27 biliwn litr mewn gwerthiant tanwydd yn y DU dros chwe mis cyntaf y flwyddyn hon o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2008 roi rhyw synnwyr o realiti i'r farchnad tanwydd a'r Llywodraeth.
Erthygl 2 - Ffynhonnell yr URL: The Guardian
Mae'r nifer cynyddol o bobl Prydain sydd bellach yn dewis aros i mewn ar y penwythnos yn hytrach na mynd allan, o ganlyniad i'r dirywiad economaidd, wedi golygu bod Domino's Pizza wedi mwynhau gwerthiant cynyddol am chwarter arall.

Ffynhonnell: 'ONS'
Dywedodd cadwyn dosbarthu pizza mwyaf y DU ei fod ar y ffordd i oresgyn disgwyliadau'r farchnad ar gyfer y flwyddyn wrth i bobl fwyta Pepperoni Passion a Texas BBQ ar eu soffas o flaen y teledu fel ffordd o dreulio'r amser yn ystod y dirwasgiad.
Mae'r cwmni wedi cydnabod erioed bod y busnes pizza yn gwneud yn dda mewn cyfnod o galedi, ac mae wedi manteisio i'r eithaf ar y cwymp mewn cyfraddau hysbysebu i barhau i hyrwyddo pob disgownt a bargen ymysg y cyhoedd sy'n brin o arian.
Roedd gwerthiant i fyny 11% yn y trydydd chwarter, dros yr un cyfnod y llynedd, gan wthio'r twf ar gyfer y flwyddyn yn gyfan gwbl i 8.3%.