Rhannwch y myfyrwyr yn barau neu'n grwpiau o dri a rhowch gopi papur iddynt o'r daflen gyda'r saeth a set o'r cynnyrch (wedi'u torri allan). Gofynnwch iddyn nhw beth fyddai'n digwydd i'r galw am y cynnyrch pe bai cynnydd arwyddocaol mewn incwm (cynnydd mawr, cynnydd bach, dim newid, cwymp bach neu gwymp mawr mewn galw). Gofynnwch iddyn nhw roi eu cynnyrch ar y llinell.


Yna gofynnwch i'r grwpiau gyfiawnhau eu dewisiadau (siŵr o fod trwy drafod fesul cynnyrch mewn sesiwn agored: “Pwy nododd fod papur toiled yn newid mawr? Pam?" etc.


Nid yw'r atebion yn bwysig – mae'r cyfan yn eithaf goddrychol, a beth bynnag, mae hyn yn caniatáu i chi bwysleisio'r syniad nad yw YED yn werth sefydlog – bydd yn amrywio fesul person – bydd lefel incwm unigolyn yn pennu ei agwedd at gynnyrch gwahanol.

Fel tasg ddilynol, gofynnwch iddyn nhw lunio graff gwag ar fwrdd gwyn bach gydag Y ar yr echelin fertigol a nifer ar yr echelin lorweddol. Yna, dewiswch gynnyrch fel teithio ar fws a gofynnwch iddyn nhw weithio mewn parau i gyfrifo sut bydd y galw yn newid wrth i incwm gynyddu'n raddol – awgrymwch y dylen nhw ddechrau meddwl am beth fyddai'r achos ar incwm o sero a beth fyddai'n digwydd wrth i'r incwm gynyddu. Dylai rhai ohonyn nhw gynnig rhywbeth fel y canlynol:

graph

I ddechrau, bydd y galw ar sero nes bydd incwm yn codi i lefel benodol (nid yw pobl heb arian fel arfer yn mynd ar y bws). Ar ôl y pwynt hwn, mae teithio ar fws yn nwydd arferol, ond ar ôl i incwm godi uwchben lefel benodol, mae defnyddwyr yn dechrau defnyddio tacsi neu'n prynu car.

Felly, mae'n atgyfnerthu'r syniad y gall YED fod yn bositif neu'n negatif.

Llusgwch y delweddau i’r lle iawn ar y llinell gwerth.

Cwymp mawr mewn galw

Cwymp bach mewn galw

Dim newid mewn galw

Cynnydd bach mewn galw

Cynnydd mawr mewn galw

Question for class 1
Question for class 2