Gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn parau ar gwestiwn 1 i esbonio beth sy'n digwydd ym mhob diagram.
Ar ôl sylweddoli bod galw yn y diagram ar y chwith yn anelastig o ran pris (gan ein bod yn gweithredu o dan y canolbwynt) a bod y galw yn elastig yn y diagram ar y dde (gan ein bod ni uwchben y canolbwynt), gallan nhw symud ymlaen at gwestiwn 2.
Cwestiwn 1
Pa un o'r diagramau isod sy'n dangos galw elastig o ran pris, a pha un sy'n anelastig o ran pris? Pam?
Cwestiwn 2
Ym mhob diagram, marciwch yr un codiad pris (e.e. hyd at £12). Cyfrifwch a thywyllwch Gyfanswm newydd y Derbyniadau ym mhob achos. Beth sy'n digwydd i Gyfanswm y Derbyniadau ym mhob achos?
Pa gasgliadau gallwn ni ddod iddyn nhw ynglŷn â phenderfyniadau prisio?
