Dyma rai ymarferion elastigedd er mwyn i chi ymarfer gwneud cyfrifiadau. Dangoswch bob un ar y bwrdd gwyn a gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn parau i gyfrifo'r atebion, cyn dangos yr atebion cywir iddyn nhw.

Cwestiwn 1
1. Yn ystod yr haf, mae Iris yn rhedeg stondin diod lemon ar ei stryd. Ar y diwrnod cyntaf, mae'n gwerthu 43 gwydraid o ddiod lemon am bris o 20c yr un. Y noson honno, mae ei thad yn dweud wrthi am godi ei phris i 50c oherwydd bydd hi'n gwneud mwy o arian fel hynny. Mae'n derbyn ei gyngor, ond ar yr ail ddiwrnod, dim ond 26 gwydraid mae hi'n eu gwerthu.
(a) Cyfrifwch y PED.
% newid mewn pris = +150%. % newid mewn galw = -17/43X100 = -39.5% felly PED yw -39.5/150 = 0.26.
(b) Beth oedd derbyniadau Iris cyn i'r pris newid?
43 x 20c = £8.60
(c) Beth oedd derbyniadau Iris ar ôl i'r pris newid?
26 x 50c = £13
(ch) Beth oedd canran y cynnydd/gostyngiad yn nerbyniadau Iris o'r diwrnod cyntaf i'r ail ddiwrnod?
4.4/8.6 x 100% = 51.2%
(d) Esboniwch pam y gwnaeth y derbyniadau ymddwyn fel hynny.
Fe wnaeth y derbyniadau godi oherwydd bod y galw'n gostwng yn llai na'n gyfrannol pan oedd y pris yn codi.
Dyma rai ymarferion elastigedd er mwyn i chi ymarfer gwneud cyfrifiadau. Dangoswch bob un ar y bwrdd gwyn a gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn parau i gyfrifo'r atebion, cyn dangos yr atebion cywir iddyn nhw.

Cwestiwn 2
Mae Nintendo wedi gweld gwerthiant ei gonsol newydd yn gostwng, ac mae'n colli tir i'w gystadleuwyr Sony a Microsoft. Mae'n gostwng pris y consol o £400 i £320. O ganlyniad, mae gwerthiant yn cynyddu o 500,000 i 550,000.
(a) Cyfrifwch y PED.
Galw: +10% Pris -20% PED = -1/2
(b) Beth oedd derbyniadau Nintendo cyn gostwng y pris?
£400 x 500,000 = £200m
(c) Beth oedd derbyniadau Nintendo ar ôl gostwng y pris?
£320 x 550,000 = £176m
(ch) Beth oedd canran y cynnydd/gostyngiad yn nerbyniadau Nintendo ar ôl gostwng y pris?
-24/200 x 100% = -12%
(d) Esboniwch pam y gwnaeth y derbyniadau ymddwyn fel hynny.
Gostyngwyd y pris a chynyddodd y galw yn llai na'n gyfrannol, felly roedd llai o dderbyniadau.
Dyma rai ymarferion elastigedd er mwyn i chi ymarfer gwneud cyfrifiadau. Dangoswch bob un ar y bwrdd gwyn a gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn parau i gyfrifo'r atebion, cyn dangos yr atebion cywir iddyn nhw.

Cwestiwn 3
Mae cwmni cyhoeddi yn Rhydychen yn ystyried ei strategaeth prisio ar gyfer llyfrau plant. Ar hyn o bryd, mae ei gyfres o lyfrau plant yn gwerthu am £5, ar gyfartaledd. Fodd bynnag, oherwydd costau cynyddol, mae'n bosibl y bydd yn rhaid codi hyn i £6 yn y dyfodol agos. Mae gwaith ymchwil yn y gorffennol wedi dangos mai'r PED tebygol ar gyfer llyfrau plant yw -1.5. Y llynedd, fe wnaeth y cwmni werthu 20,000 o lyfrau plant.
(a) Beth fydd y nifer tebygol o lyfrau plant y gall y cwmni eu gwerthu eleni os bydd yn codi'r pris i £6 fel yr awgrymir?
14,000. Pris yn codi 20%, PED =-1.5 felly bydd gwerthiant yn gostwng 30%.
(b) Beth oedd derbyniadau y cwmni y llynedd?
20,000 x £5 = £100,000
(c) Beth fydd derbyniadau tebygol y cwmni eleni?
14,000 x £6 = £84,000
Dyma rai ymarferion elastigedd er mwyn i chi ymarfer gwneud cyfrifiadau. Dangoswch bob un ar y bwrdd gwyn a gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn parau i gyfrifo'r atebion, cyn dangos yr atebion cywir iddyn nhw.

Cwestiwn 4
Mae rheolwr newydd wedi dechrau yn Sainsbury's ac mae hi'n ystyried gostwng pris siampŵ brand Sainsbury's. Mae'n gwybod bod gostyngiad pris y llynedd o 80c i 70c wedi cynyddu gwerthiant blynyddol o 10,000 o unedau i 12,000 o unedau, felly mae'n ystyried toriad arall o 10c eleni.
(a) Beth oedd y PED ar gyfer siampŵ brand Sainsbury's y llynedd?
Pris yn gostwng 12.5%. Galw yn cynyddu 20%. Felly, y PED yw -1.6
(b) Faint gynyddodd y derbyniadau ar ôl y toriad o 10c?
(b) 80c x 10,000= £8000 yna 70c x 12,000 = £8400 felly +£400.
(c) A fydd torri 10c arall oddi ar bris y siampŵ yn arwain at hyd yn oed rhagor o dderbyniadau?
(c) Mae hyn yn dibynnu a yw'r PED yn aros yr un fath. Os bydd, yna bydd y galw'n codi'n fwy na'n gyfrannol, felly dylai'r derbyniadau gynyddu.