Rhannwch y myfyrwyr yn barau neu yn grwpiau o dri, gan naill ai roi llechi (cyfrifiaduron tabled) iddyn nhw gwblhau'r gweithgaredd neu argraffu'r daflen waith a thorri'r set o gynnyrch.

Gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw'n credu fyddai'n digwydd i'r galw am y cynnyrch pe byddai cynnydd sylweddol mewn pris (newid mawr, newid canolig neu newid cyfyngedig (bach) mewn galw). Gofynnwch iddyn nhw roi eu cynnyrch ar y llinell.

Yna gofynnwch i'r grwpiau gyfiawnhau eu dewisiadau (siŵr o fod trwy drafod fesul cynnyrch mewn sesiwn agored, gan ofyn "Pwy nododd fod papur toiled yn newid mawr? Pam?" etc.

Llusgwch y delweddau i’r lle iawn ar y llinell gwerth.

Newid cyfyngedig mewn galw

Newid canolig mewn galw

Newid mawr mewn galw