Penderfynwch pa un o'r pedwar graff sy'n disgrifio'r senario a chliciwch arno. Ar ôl i chi ddewis graff ar gyfer y pedwar senario, byddwch yn cael gweld a yw'r ateb cywir gennych chi.
Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Prisiau porc i godi'n sylweddol

URL y Ffynhonnell: 'This is Money.co.uk'
Os ydych chi'n hoff iawn o frechdanau cig moch, peidiwch â darllen ymlaen. Bydd pris porc yn codi'n sylweddol dros y misoedd nesaf – bydd cyfuniad o gyfreithiau ffermio newydd yn yr Undeb Ewropeaidd a phrisiau porthiant drud iawn yn cael effaith wael ar y diwydiant.
Disgwylir y bydd llawer o gynhyrchwyr Ewropeaidd yn gadael y diwydiant ffermio moch cyn rhoi cyfreithiau newydd (sy'n ymwneud â lles anifeiliaid) ar waith ym mis Ionawr 2013.
Bydd yn golygu y bydd y rheini sy'n hoff o'u brechdanau cig moch a selsig bron yn sicr o weld pris y cynhwysion hyn yn codi'n uwch ac yn uwch.




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Disgwylir i bris mwyn haearn ddisgyn wrth i'r pris gyrraedd $90 ym mis Rhagfyr, gan ehangu'r gwarged i 2018 o leiaf

URL y Ffynhonnell: 'Mining.com'
Mae adroddiad newydd gan Morgan Stanley yn rhagweld y bydd y cyflenwad o fwyn haearn morol – sef ychydig dros 1 biliwn o dunelli metrig y flwyddyn ar hyn o bryd – yn tyfu 9.1% yn 2013. Bydd hyn yn trechu'r galw ac yn gostwng y farchnad ar gyfer y deunydd crai i wneud dur. …
Bydd prisiau'n disgyn cymaint â 34% i $90 y dunnell fetrig erbyn diwedd y flwyddyn hon, yn ôl canolrif saith o ragolygon gan ddadansoddwyr a gasglwyd gan Bloomberg.Bloomberg.




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Prisiau tai'r DU yn codi'n gyflym, yn ôl Nationwide

URL y Ffynhonnell: 'Erthygl Newyddion y BBC'
Yn ôl Nationwide mae prisiau tai yn y DU wedi parhau i godi "yn eithaf cyflym" ym mis Awst [2013], gan godi 0.6% o'i gymharu â mis Gorffennaf.
Dywedodd y gymdeithas adeiladu fod prisiau eiddo i fyny 3.5% o'u cymharu â blwyddyn yn gynharach...
Roedd cyfradd cyflogaeth uwch ac arwyddion o adferiad economaidd yn achosi cynnydd yn hyder defnyddwyr, oedd yn helpu i wthio'r prisiau yn uwch.




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Cwymp mewn prisiau pŵer ar gridiau yn Nwyrain UDA wrth i'r gwres leddfu

URL y Ffynhonnell: 'Bloomberg'
… gwelwyd cwymp mewn prisiau trydan cyfanwerth o arfordir dwyreiniol UDA i'r gorllewin canol wrth i wres poeth leddfu. Roedd hyn yn lleihau'r angen i ddefnyddio aerdymherwyr.




Canlyniadau
Cwestiwn 1
Cwestiwn 2
Cwestiwn 3
Cwestiwn 4