Penderfynwch pa graff sy'n disgrifio'r senario, a chliciwch ar y graff hwnnw. Ar ôl i chi ddewis graff ar gyfer y pedwar senario, byddwch yn cael gweld a yw'r ateb cywir gennych chi.
Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Tyfiant opiwm Afghanistan

URL y Ffynhonnell: 'BBC News Article'
Mae diwydiant tyfu opiwm Afghanistan wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, gyda mwy na 200,000 o hectarau wedi'u plannu â'r pabi am y tro cyntaf, yn ôl y Cenhedloedd Unedig. Dywedodd yr adroddiad [gan y Cenhedloedd Unedig] fod y cynhaeaf wedi cynyddu 36% o'i gymharu â'r llynedd … [wrth i] fwy o ffermwyr geisio tyfu'r pabi (opiwm) am fod pris opiwm wedi bod yn codi.




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Cynhyrchu alwminiwm yn Brasil

URL y Ffynhonnell: 'Bloomberg'
Mae hi bellach mor ddrud i gynhyrchu alwminiwm ym Mrasil wrth i brisiau trydan saethu'n uwch nag erioed eleni, fel bod Alcoa Inc. (AA) wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio ei ffwrnais fwyndoddi Pocos de Caldas, ac mae bellach yn gwerthu pŵer y cyfleuster yn hytrach na metel. Fe wnaeth y sychder gwaethaf ers degawdau sychu'r cronfeydd dŵr a oedd yn cael eu defnyddio i redeg generaduron trydan dŵr sy'n cyflenwi pŵer i echdynnu alwminiwm, gan gynyddu'r costau a oedd eisoes wedi codi oherwydd y rheidrwydd i wario mwy ar lafur a chludiant. [Mae diffygion bellach yn ymddangos ar gyfer cynhyrchwyr caniau diodydd sy'n ddibynnol ar yr alwminiwm.]




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
Cynhyrchiant Olew Iraq

URL y Ffynhonnell: 'The Wall Street Journal'
Mae Iraq wedi cael trafferth bodloni targedau cynhyrchu dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd aflonyddwch logistaidd a biwrocrataidd.
[…] Gwelwyd cynnydd annisgwyl mewn cynhyrchiant olew'r mis diwethaf wrth i dagfa fawr yn nherminws allforion Basra yn ne Iraq gael ei gwaredu o'r diwedd.




Pa graff sy'n disgrifio'r senario?
SINGAPORE/SHANGHAI, Medi 11 (Reuters)

URL y Ffynhonnell: 'Reuters'
Mae gostyngiad ym mhrisiau mwyn haearn i'r prisiau isaf ers tair blynedd yn gorfodi llawer o fwynwyr cost-uchel yn China i gyfyngu'r allbwn. Mae gan fwyn [haearn] China gynnwys haearn is na llawer o wledydd eraill, felly mae cynhyrchwyr yn gwario mwy yn echdynnu'r mwyn o'u cymharu â mwynwyr byd-eang fel Vale, Rio Tinto a BHP Billiton. Mae hynny'n golygu bod gostyngiad mewn prisiau'n effeithio arnyn nhw'n gynharach.
Mae'r cwmni o faint canolig, Minmetals Luzhong Mining, sy'n cael ei redeg gan y wladwriaeth, wedi torri cynhyrchiant i oddeutu 4,500 tunnell y diwrnod o tua 5,000-6,000 tunnell, dywedodd un o swyddogion y cwmni, nad oedd am gael ei enwi am nad oedd ganddo ganiatâd i siarad â'r cyfryngau.




Canlyniadau
Cwestiwn 1
Cwestiwn 2
Cwestiwn 3
Cwestiwn 4