Darllenwch y wybodaeth, yna ar y graff, dangoswch yr effaith y mae prisiau tai sy'n codi yn y DU yn ei chael ar gyflenwad tai yn Llundain.
img01
Prisiau tai yn y DU yn uwch nag erioed

Cododd prisiau tai yng Nghymru a Lloegr 6.8% ym mis Awst 2013, o'u cymharu â lefelau prisiau flwyddyn yn ôl, yn ôl adroddiad diweddaraf prisiau eiddo preswyl y Gofrestrfa Tir, a gyhoeddwyd heddiw. Mae'r tŷ cyffredin yn y DU bellach yn gwerthu am £242,415 ar gyfartaledd, sy'n fwy na'r swm o £226,895 y llynedd.

Cododd nifer y tai a werthwyd yn Llundain o 20,782 i 29,241 dros y flwyddyn hefyd, gan adlewyrchu'r cyflenwad o dai.

Mae'r Canghellor yn bwriadu llacio rheolau cynllunio ar dir 'llain las'

1) Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi bod cyfyngiadau o ran lle gellir adeiladu tai newydd wedi cael eu llacio – mae bellach yn haws adeiladu tai newydd ar dir 'llain las' (tir lle nad oes eiddo arall yn bodoli ar hyn o bryd).

Tybiwch fod tai newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfradd o 20,000 y flwyddyn yn ardal Llundain. Lluniwch gromlin gyflenwad newydd i adlewyrchu effaith hyn.

Gwerthiant tai yn cael ei gyfyngu gan farchnad gredyd dynn

Er y caiff hyn ei ystyried yn ffactor galw fel arfer, mae'r diffyg benthyciadau sydd ar gael yn rhwystro prynwyr tai rhag prynu eiddo gwell, oherwydd bod llawer o bobl yn methu ariannu'r benthyciad ychwanegol sydd ei angen ar gyfer tŷ mwy o faint. O ganlyniad, mae'r cyflenwad o eiddo llai sy'n cyrraedd y farchnad wedi gostwng yn sylweddol.

1) Addaswch eich cromlin gyflenwad wreiddiol i ddangos effaith debygol y ffenomen hon ar gyflenwad tai.