Rhowch i'r myfyrwyr yr adnodd papur o'r enw 'Dau ddigid olaf eich rhif ffôn – taflen myfyrwyr'. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu dau ddigid olaf eu ffonau symudol. Yna dangoswch y lluniau ar y sgrin iddyn nhw, un ar y tro. Pwysleisiwch nodweddion da pob eitem cyn gofyn i'r myfyrwyr benderfynu a fydden nhw'n talu'r pris mewn punnoedd sy'n gyfwerth â dau ddigid olaf eu rhifau ffôn.

Yna gofynnwch iddyn nhw nodi'r pris uchaf y bydden nhw'n ei dalu.

  • img01

    Potel o win

  • img02

    Unedau sain bluetooth

  • img03

    1kg o siocled

  • img04

    Tanysgrifiad blwyddyn ar gyfer The Economist

  • img05

    Set cyfrifiadur di-wifr (bysellfwrdd a llygoden)

Yn gyntaf, gofynnwch i'r myfyrwyr a fydden nhw'n caniatáu i'w rhifau ffôn ddylanwadu ar faint fydden nhw'n ei dalu am eitem.

Nawr, gofynnwch i'r myfyrwyr weiddi allan ddau ddigid olaf eu rhifau ffôn, cyn rhoi'r pris uchaf y bydden nhw'n fodlon ei dalu ar gyfer yr eitemau i chi. Llenwch y tabl a phwyso cyfartaledd i gyfrifo'r cyfartaledd ar gyfer pob myfyriwr. Trafodwch sut gallai digidau eu rhifau ffôn fod wedi dylanwadu ar y swm y bydden nhw'n fodlon ei dalu.

Llenwch y tabl a phwyso cyfartaledd i gyfrifo'r cyfartaledd ar gyfer pob myfyriwr:

Dau ddigid olaf eich rhif ffôn Eitem 1 Eitem 2 Eitem 3 Eitem 4 Eitem 5 Cyfartaledd