Yn y gweithgaredd hwn, mae'r myfyrwyr yn mynd i ddysgu beth yw'r gwahaniaeth rhwng symudiadau a newidiadau mewn cromlin galw gan ddefnyddio senarios o'r byd go iawn. Penderfynwch pa graff sy'n disgrifio'r senario, a chliciwch ar y graff hwnnw. Ar ôl i chi ddewis graff ar gyfer y pedwar senario, byddwch yn cael gweld a yw'r ateb cywir gennych chi.

Pa graff sy'n disgrifio'r senario?

Archebion Xbox One yn SAETHU TRWY'R TO yn GameStop
Archebion Xbox One yn SAETHU TRWY'R TO

"Yn bendant, rwy'n meddwl ein bod ni eisoes yn gweld yn ein siopau – gyda'n rhaglen neilltuo, a thrwy siarad ag aelodau PowerUp Rewards – bod cynnydd yn y galw o ganlyniad i'r gostyngiad pris," dywedodd Bartel, Prif Swyddog Gweithredol GameStop. "Y newyddion da i ni yw ... byddwn ni'n gwerthu llawer mwy o unedau."

graff A graff B graff C graff D

Pa graff sy'n disgrifio'r senario?

Galw am aur yn cwympo'n aruthrol ar ôl y galw uchel y llynedd, a'r mesurau llym yn erbyn anonestrwydd a llygredd (corruption) yn China
Galw am aur yn cwympo'n aruthrol

Ar ôl y galw uchel am aur yn ail chwarter y flwyddyn ddiwethaf, mae cwymp aruthrol wedi bod yn y galw. Mae'r cwymp hwn yn fwyaf amlwg yn China, lle gwariodd defnyddwyr 55% yn llai ar emwaith, bariau aur a cheiniogau na'r gwariant ar yr un adeg yn 2013.

Mae rhywfaint o hyn o ganlyniad i'r mesurau llym iawn sy'n cael eu cymryd yn erbyn anonestrwydd a llygredd yn China yn dilyn cyfres o sgandalau ymhlith gwleidyddion ac arweinwyr busnes, sydd eisoes wedi cael effaith ar werthiant eitemau 'tocyn mawr' fel ceir ac oriorau.

graff A graff B graff C graff D

Pa graff sy'n disgrifio'r senario?

Galw am geir yn gostwng yn Japan ar ôl cynyddu'r dreth gwerthiant
Galw am geir yn gostwng yn Japan

TOKYO (Bloomberg) – mae grŵp diwydiant yn amcangyfrif y bydd gwerthiant ceir yn gostwng 16% yn Japan yn y flwyddyn sy'n dechrau Ebrill 1, wrth i gynnydd yn y dreth gwerthiant leihau'r galw.

Mae'n debygol y bydd gwerthiant yn gostwng i 4.75 miliwn o unedau yn Japan, y drydedd farchnad ceir fwyaf yn y byd, wrth i'r dreth godi i 8%, o'r 5% cyfredol, gan gynyddu prisiau i ddefnyddwyr.

graff A graff B graff C graff D

Pa graff sy'n disgrifio'r senario?

Cynnydd aruthrol mewn teithiau trên ers yr 1990au
Cynnydd aruthrol mewn teithiau trên

Mae ffigurau newydd yn dangos bod nifer y teithiau trên a gaiff eu cymryd mewn blwyddyn wedi mwy na dyblu ers yr 1990au, wrth i weithwyr deithio pellteroedd mwy i'r gwaith ac wrth i dagfeydd waethygu ar rwydwaith y ffyrdd.

Roedd cyfanswm o 1.27 biliwn o deithiau trên ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban yn y 12 mis cyn Mawrth 2013, yn ôl Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd. Cynyddodd y ffigur hwnnw 3.3% rhwng 2012 a 2013, ac mae'n cymharu â 589.5 miliwn o deithiau yn 1995/96.

graff A graff B graff C graff D

Canlyniadau

Dyma'r ateb cywir

Cwestiwn 1

Cwestiwn 2

Cwestiwn 3

Cwestiwn 4