Gofynnwch i'r myfyrwyr ddychmygu eu bod yn rhedeg Marathon des Sables. Ac maen nhw'n mynd ar goll. Maen nhw wedi colli gweddill y rhedwyr a'r tîm cefnogi a does ganddyn nhw ddim dŵr ar ôl. Ar ôl nifer o oriau, maen nhw bellach yn ofnadwy o boeth, yn sychedig iawn ac ar fin dadhydradu. Fodd bynnag, mae help wrth law: mae menyw sydd â gwydraid 250ml o ddŵr oer yn ymddangos o unman, ac mae'n barod i werthu'r gwydraid o ddŵr. Gofynnwch iddyn nhw feddwl beth yw'r pris uchaf y bydden nhw'n fodlon ei dalu am y gwydraid hwnnw (a gwnewch nodyn o'r pris).

Yna, mae'r fenyw yn dod ag ail wydraid i'r golwg. Eto, gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl beth yw'r pris uchaf y bydden nhw'n fodlon ei dalu am y gwydraid hwnnw (a gwnewch nodyn o'r pris). Dylech chi ailadrodd hyn am drydydd a phedwerydd tro, a dylai'r myfyrwyr, felly, gael 4 gwerth wedi'u nodi.

Gofynnwch i'r myfyrwyr blotio'r gwerthoedd hyn ar graff (echelin x yw nifer y poteli o ddŵr: 1af, 2il, 3ydd, 4ydd; echelin y yw'r "pris uchaf y byddwn i'n fodlon ei dalu").

  • img01
  • img02
  • img03
  • img04
  • img05
  • img06
  • img06
  • img06
  • img07
water bottles