Bydd y gweithgaredd hwn yn gweithio orau wrth ddefnyddio llechi (cyfrifiaduron tabled). Os nad oes gennych chi lechi, defnyddiwch y fersiwn y gellir ei argraffu yn lle hynny. Rhannwch y dosbarth yn 3 grŵp a rhowch lechen i bob grŵp. Gofynnwch i bob grŵp edrych ar un llun penodol, yna rhowch ddwy funud iddyn nhw deipio cynifer o resymau â phosibl pam gallai'r galw am y cynnyrch penodol hwnnw gynyddu neu leihau. Pan fydd y ddwy funud ar ben, gofynnwch i bob grŵp gyfnewid eu llechi ac ystyried cynnyrch newydd, gan ychwanegu at y rhesymau sydd yno'n barod. Dylech chi ailadrodd hyn ar gyfer y trydydd cynnyrch.

Pan fydd pob grŵp wedi cael cyfle i ychwanegu rhesymau at bob llun, defnyddiwch yr adnodd sydd i'w ddefnyddio o flaen y dosbarth i gasglu eu rhesymau at ei gilydd a thrafod ffactorau cyffredin.
  • img01

  • img02

  • img03