Creu Nwyddau traul



Creu Nwyddau cyfalaf




Mae gan bob economi dri ffactor cynhyrchu allweddol – tir, llafur (gweithwyr) a chyfalaf (peiriannau). Gallwch gyfuno'r rhain i wneud nwyddau a gwasanaethau y mae dinasyddion yr economi yn dymuno eu defnyddio. Isod, cewch fanylion economi ddychmygol. Er mwyn gwneud pethau'n syml, gallwn dybio nad oes cyfyngiad ar faint o dir sydd ar gael. Mae cyfalaf a llafur, fodd bynnag, yn gyfyngedig. Cynllunio yw eich swydd chi – eich nod yw gwneud eich pobl mor hapus â phosibl dros gyfnod o ddeg mlynedd.
Gall eich economi chi greu dau fath o gynnyrch:
Mae angen naill ai 2 weithiwr neu 1 peiriant (sy’n un o’r nwyddau cyfalaf) ar bob un o’r nwyddau traul.
Mae angen naill ai 4 gweithiwr, 2 beiriant neu 2 weithiwr ac 1 peiriant (sy’n un o’r nwyddau cyfalaf) ar bob un o’r nwyddau traul.
Mae siart 1 yn dangos pa mor hapus y bydd eich dinasyddion pe bai nifer penodol o nwyddau traul yn cael eu cynhyrchu mewn blwyddyn.
Nwyddau traul a gynhyrchwyd mewn blwyddyn | Hapusrwydd (gelwir hefyd yn ddefnyddioldeb) |
---|---|
1 | 20 |
2 | 39 |
3 | 57 |
4 | 74 |
5 | 90 |
6 | 105 |
7 | 119 |
8 | 132 |
9 | 144 |
10 | 155 |
11 | 165 |
12 | 174 |
13 | 182 |
14 | 189 |
15 | 195 |
16 | 200 |
17 | 204 |
18 | 207 |
19 | 209 |
20 | 210 |
Ar y dechrau, nid oes cyfyngiad ar faint o dir sydd gan eich economi chi, ond dim ond 4 gweithiwr a 4 peiriant sydd ganddo.
Bob blwyddyn, bydd 1 gweithiwr ychwanegol gan eich poblogaeth, ond bydd 1 peiriant yn torri i lawr.
Felly, os na fyddwch chi'n gwneud dim peiriannau ym mlwyddyn 1, ar ddechrau blwyddyn 2, yn lle cael 4 gweithiwr a 4 peiriant, bydd gennych chi 5 gweithiwr ond dim ond 3 peiriant (oherwydd yr un sydd wedi torri). Gallwch chi wneud mwy o beiriannau, wrth gwrs, ond mae gwneud peiriannau yn golygu na fyddwch chi'n gallu gwneud cynifer o nwyddau traul, a nwyddau traul yw'r hyn sy'n gwneud eich dinasyddion yn hapus. Argraffu'r testun