Paratowch trwy ofyn i'r myfyrwyr ddarllen y testun ar y sgrin cyn gwylio'r fideo o'r drôn yn Fukushima.
Tair blynedd ar ôl i arfordir dwyreiniol Japan ddioddef y trychineb niwclear gwaethaf ers Chernobyl, mae sawl rhanbarth yn dal i fod yn ddiffaith.
Mae'r ymdrech i lanhau yn cael ei llesteirio gan y risg barhaus i weithwyr yn sgil pelydriad, ac o ganlyniad, mae sawl drôn wedi cael eu hanfon i gofnodi'r dinistr.
Llwyddodd un drôn i gofnodi graddau anferthol y dinistr wrth fynd trwy dref farw Tokioma.
Ar ôl darllen yr erthygl a gwylio'r fideo, gofynnwch i'r myfyrwyr ddefnyddio byrddau gwyn bach i ail-luniadu'r diagram i ddangos beth fyddai'r effaith wedi bod ar PPF Japan, yn eu barn nhw. Gallwch ddefnyddio'r diagram ar y bwrdd i addasu'r PPF ar sail adborth y myfyrwyr, neu i ddangos yr ateb cywir.
Yr effaith ar PPF Japan
