Dyma adnodd i ysgogi myfyrwyr i feddwl pam gallai PPFs newid yn anghyson, ac i feddwl am y tymor byr a'r tymor hir am y tro cyntaf.
Y pwynt dysgu allweddol yw'r gwahaniaeth rhwng y symudiad ar hyd PPF a newid yn y PPF ei hun.

Cnydau GM India yn cynhyrchu llawer iawn



Mae cynnyrch cotwm GM wedi cynyddu'n aruthrol.
Ffynhonnell: 'Erthygl newyddion BBC'

Mae cynnyrch cnydau cotwm yn India â'u genynnau wedi'u haddasu i wrthsefyll pryfed wedi cynyddu'n sylweddol.

Honnir y gallai'r astudiaeth hon fod yn arbennig o addawol ar gyfer ffermydd bach, incwm isel, mewn gwledydd sy'n datblygu.

Gwelwyd cynnydd o 80-90% mewn cynnyrch, ar gyfartaledd.

Mae'r awduron yn dweud y gellir trosglwyddo'r canlyniadau i rannau eraill o'r byd ac i gnydau bwyd sy'n cael eu difetha mewn ffordd debyg gan blâu.

Fodd bynnag, er y manteision hyn, mae lobïo cryf wedi bod yn India yn erbyn addasu genynnau.

Mae oddeutu 600 o amrywiaethau naturiol o gnydau yn tyfu yn India, ac mae amgylcheddwyr yn poeni am y difrod y gallai paill GM ei achosi i amrywiaeth cnydau pe bai'n "halogi" yr amrywiaethau naturiol hyn.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai unrhyw gynnydd mewn cynnyrch gan gotwm GM yn cael ei golli yn y tymor hir, wrth i'r pryfed ddatblygu'r gallu i wrthsefyll.

I wneud pethau'n syml, dychmygwch mai dim ond ceir neu gotwm y gall yr economi eu cynhyrchu. Ar ôl darllen yr erthygl a gwylio'r fideo, gofynnwch i'r myfyrwyr ddefnyddio byrddau gwyn bach i ail-luniadu'r diagram i ddangos yr effeithiau tebygol yn sgil defnyddio cotwm GM yn India:

(i) Yn y tymor byr
(ii) Yn y tymor hir

Effeithiau tebygol yn sgil defnyddio cotwm GM yn India:

Graff PPF
Gwirio






Cwestiwn ar gyfer dosbarth 1
Cwestiwn ar gyfer dosbarth 2