Gofynnwch i'r myfyrwyr roi pum economi mwyaf y byd o ran CMC, yn eu barn nhw, mewn trefn, trwy lusgo'r gwledydd i fyny neu i lawr y rhestr, a gofynnwch iddyn nhw amddiffyn eu penderfyniadau. Dylech eu hannog i feddwl yn nhermau adnoddau, fel tir, llafur a chyfalaf.
Gallwch ddatblygu'r drafodaeth trwy eu herio â chwestiynau fel:
Mae 4 gwaith yn fwy o bobl yn China na sydd yn UDA. Yn eich barn chi, pam mae CMC UDA yn uwch?
Gan gychwyn gyda'r gwerth mwyaf llusgwch y gwledydd i'w rhoi yn y drefn gywir yn ôl CMC.
Trefn Gwlad
- 01
Yr Unol Daleithiau
- 02
China
- 03
India
- 04
Japan
- 05
Yr Almaen
- 06
Rwsia
- 07
Brasil
- 08
Y Deyrnas Unedig
- 09
Ffrainc
- 10
México
Mae CMC yn fesur o gyfanswm maint economi (gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gaiff eu cynhyrchu). Ar sail y ffigurau CMC ar gyfer y gwledydd eraill sydd wedi'u rhoi mewn trefn, beth fydd CMC China, y DU ac India yn eich barn chi? Trafodwch eich atebion cyn dangos y ffigurau go iawn.
Dyfalwch werthoedd CMC China, India a'r DU
Trefn Gwlad (Biliynau o $ UDA)CMC
- 01
Yr Unol Daleithiau16,799.7
- 02
China13,395.4
- 03
India5,069.2
- 04
Japan4,698.8
- 05
Yr Almaen3,232.6
- 06
Rwsia2,556.2
- 07
Brasil2,423.3
- 08
Y Deyrnas Unedig2,390.9
- 09
Ffrainc2,278.0
- 10
México1,842.6
- India
- China
- UK
Cromlin PPF

PPF ar gyfer 2013
- India - $5069.2
- China - $13395.4
- DU - $2390.9
Newyddion y dyfodol
Mae China wedi mynd heibio i UDA fel economi mwyaf y byd
21 Chwefror, 2040 – Mae dadansoddwyr yn dweud mai China oedd economi mwyaf y byd y llynedd, gan fynd heibio i UDA. Gyda CMC enwol o US$29,300 biliwn ar gyfer y flwyddyn 2039, mae China dros US$500 biliwn o flaen UDA. Mae CMC China ddeg gwaith yn uwch nag ydoedd 35 mlynedd yn ôl.
UDA oedd economi mwyaf y byd am oddeutu canrif, ers i'r Ymerodraeth Brydeinig ddioddef yn ddifrifol yn yr Ail Ryfel Byd. Gall China bellach edrych ymlaen at deyrnasu am oddeutu 30–40 o flynyddoedd. Mae economi India, sef yr economi sy'n tyfu gyflymaf ar hyn o bryd, yn debygol o fynd heibio i economi China ar ôl hyn. Daeth India yn drydydd economi mwyaf y byd yn y flwyddyn 2034 gyda chymorth ei phoblogaeth gynyddol, a bydd yn herio maint economi UDA mewn degawd.
Cromlin PPF
