Edrychwch ar yr arweiniad hwn i'r llaw gudd.
Cynllun Pum Mlynedd Stalin
Prif nod Stalin oedd ehangu cynhyrchiant diwydiannol. Ar gyfer hyn, datblygodd dri Chynllun Pum Mlynedd rhwng 1928 ac 1938. Fe wnaeth Gosplan, asiantaeth gynllunio'r wladwriaeth, lunio targedau ar gyfer cynhyrchiant pob ffatri. Roedd y ddau gynllun cyntaf yn canolbwyntio ar wella diwydiant trwm – glo, olew, dur a thrydan.
Aeth rhai Comiwnyddion ifanc, o'r enw Arloeswyr, i ardaloedd diffaith i sefydlu trefi a diwydiannau newydd o ddim. Rhoddwyd yr enw Stacanofiaid, ar ôl glöwr a dorrodd y record ar gyfer y mwyaf o lo a gloddiwyd mewn un shifft, ar weithwyr a oedd yn bencampwyr. Cyflwynwyd cynlluniau addysg i hyfforddi gweithwyr medrus, llythrennog.
Ar yr un pryd, roedd llawer o'r gweithwyr yn gaethweision ac yn kulaks o'r gulag. Roedd y rheini a oedd yn streicio'n cael eu saethu, a gallai ‘dryllwyr’ (gweithwyr araf) gael eu dienyddio neu eu carcharu. Roedd miloedd yn marw o ddamweiniau, newyn, neu o'r oerfel. Roedd tai a chyflogau'n ofnadwy, ac nid oedd dim nwyddau traul yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y bobl. Yr unig nod oedd ehangu diwydiant, ac roedd adnoddau'n cael eu cymryd oddi ar unrhyw alw arall a oedd yn cystadlu, fel amaethyddiaeth – arweiniodd hyn at newyn yn Kazakstan a Turkmenistan.
Ond roedd y gwelliannau mewn cynhyrchiant rhwng 1928 ac 1937 yn anhygoel:
- Glo – o 36 miliwn tunnell i 130 miliwn tunnell
- Haearn – o 3 miliwn tunnell i 15 miliwn tunnell
- Olew – o 2 filiwn tunnell i 29 miliwn tunnell
- Trydan – o 5,000 miliwn cilowat i 36,000 miliwn cilowat
Mae ansawdd y ‘cynnyrch terfynol’ yn fater dadleuol hefyd – mae haneswyr, ar y cyfan, wedi bwrw amheuaeth ar gofnodion y gyfundrefn ei hun o'r allgynnyrch. Ac nid yw'r un lefel o arloesedd technegol i'w gweld yn Rwsia yn y cyfnod hwn o'i chymharu â gwledydd eraill fel UDA.
BBC