Cofiwch
Diffoddwch yr awtogywiro os ydych chi'n defnyddio tabled neu ffôn symudol. Bydd angen sicrhau hefyd nad yw'ch cyfrifiadur/tabled/ffôn symudol yn gosod priflythyren wrth i chi deipio.
Byddwch yn ofalus wrth deipio. Os oes gormod o fylchau rhwng geiriau neu os ydych wedi anghofio atalnodi, bydd y cyfrifiadur yn marcio'r ateb yn anghywir.
Os yw'r iaith yn y cwestiwn yn ffurfiol, dylai'r iaith yn yr ateb fod yn ffurfiol.
Os yw'r iaith yn y cwestiwn yn anffurfiol, dylai'r iaith yn yr ateb fod yn anffurfiol.
Oherwydd natur iaith fyw sy'n cynnwys amrywiaeth o ffurfiau, gwnaethpwyd ymdrech i gynnwys yr atebion mwyaf poblogaidd ond mae'n bosibl bod rhai atebion wedi eu hepgor. Os nad ydych chi'n sicr, trafodwch gyda'ch tiwtor.