Pam bod llifogydd yn digwydd?
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Chwefror 2011

Defnyddiwch wefannau Asiantaeth yr Amgylchedd a Swyddfa Dywydd er mwyn gwneud y gweithgareddau.

Gwnewch nodiadau ar gyfer gwahanol fathau o lifogydd.
Gweithgaredd 1
Chwiliwch drwy dudalen isod Asiantaeth yr Amgylchedd a dewiswch un safle ar afon yn eich ymyl. Cewch wneud hyn o fap neu o enw'r afon. Gwnewch graff llinell o uchder yr afon dros gyfnod o wythnos. Dilynwch ragolygon a glawiad y Swyddfa Dywydd / y BBC ar gyfer eich ardal/afon leol. Nodwch ar eich graff pa bryd wnaeth hi fwrw yn ystod yr wythnos. Beth ydi'r berthynas? Faint o oedi sydd yna?
Gweithgaredd 2
Yn ystod cyfnod o law, defnyddiwch wefan Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn dewis afon sydd â nifer o orsafoedd mesur a gweithiwch allan faint o amser mae'n gymryd i'r glawiad yn rhannau uchaf yr afon gael effaith ar uchder yr afon yn y rhannau isaf. Beth sy'n effeithio ar symudiad y dŵr trwy'r basn draeniad?
Gweithgaredd 3