Bod yn barod ar gyfer llifogydd
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Chwefror 2011

Defnyddiwch wefannau Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn gwneud y gweithgareddau.

Ydych chi mewn ardal allai ddioddef llifogydd?
Ymchwiliwch Fap Llifogydd Rhyngweithiol Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn canfod faint o risg sydd yna i'ch ysgol a/neu'ch cartref ddioddef llifogydd o afonydd ac o'r môr.
Oes yna rybudd llifogydd cyfredol yn eich ardal? Chwiliwch y dudalen amser real rhyngweithiol sy'n rhoi rhif a difrifoldeb y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Cofrestrwch ar lein er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am rybuddion llifogydd. Canolfan Rhagweld Llifogydd (Flood Forecasting Centre) : Tudalen gartref y bartneriaeth ar y cyd rhwng y Swyddfa Dywydd (y Met Office) ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
Gweithgaredd 1
Beth ddylech chi ei wneud pan fydd llifogydd?
Lawrlwythwch a chwblhewch gynllun llifogydd ar gyfer eich ysgol. Ewch â chopi adref a'i gwblhau gyda'ch teulu.
Sut alla i fod yn barod? Gwybodaeth baratoi cyffredinol a linciau pellach ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd.
Gweithgaredd 2
Gweithiwch mewn grwpiau i ddatblygu cynllun llifogydd ar gyfer eich ysgol.

Cwestiynau y gallech eu trafod:

  • Pwy sy'n gyfrifol am rybuddion llifogydd?
  • Gyda phwy rydych chi'n cysylltu yn yr ardal leol?
  • Sut fyddech chi'n paratoi'r ysgol ar gyfer llifogydd?
Gweithgareddau 3