Accessing and using information

Cael gafael ar wybodaeth a'i defnyddio

Learning

A worker’s manager needs to ensure that the worker can contribute to the quality of care and support that is provided, and that they do not make dangerous, or costly mistakes that could put individuals at risk. This can involve a thorough programme of learning that takes place during the first weeks of a new career or a learning programme of important basic skills and knowledge that takes place over a longer period of time. Whichever approach is used, the manager is best placed to make sure a worker’s training and development is carried out properly.

Supervision or appraisal are often the best times to access current and reliable information and support relating to knowledge and best practice relevant to a worker’s role. They can use this information to plan and agree their professional development plan, ensuring their work is safe, current and follows best practice.

Mae angen i reolwr gweithiwr sicrhau y gall gyfrannu at ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir, ac nad yw'n gwneud camgymeriadau peryglus neu gostus a allai achosi risg i unigolion. Gellir gwneud hyn drwy raglen ddysgu drylwyr yn ystod wythnosau cyntaf gyrfa newydd yr unigolyn neu raglen ddysgu sy'n cynnwys sgiliau a gwybodaeth sylfaenol pwysig a gynhelir dros gyfnod hwy. Ni waeth pa ddull a ddefnyddir, y rheolwr sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau y caiff y gweithiwr ei hyfforddi a'i ddatblygu'n briodol.

Yn aml, sesiynau goruchwylio neu arfarnu yw'r cyfleoedd gorau i gael gafael ar wybodaeth gyfredol a dibynadwy am y ddealltwriaeth a'r ymarfer gorau sy'n berthnasol i rôl gweithiwr. Gall ddefnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio a chytuno ar ei gynllun datblygu proffesiynol, gan sicrhau bod ei waith yn ddiogel, yn gyfredol ac yn cydymffurfio ag arfer gorau.

Accessing and using information

Cael gafael ar wybodaeth a'i defnyddio

Create your own personal development plan, find an on-line pro-forma or access one that is produced by your workplace. Start using it to keep a record of your personal development, updating it as regularly as you think appropriate or your workplace policy requires.

Lluniwch eich cynllun datblygu personol eich hun, dewch o hyd i ffurflen ar-lein neu defnyddiwch ffurflen a luniwyd gan eich gweithle. Dechreuwch ei ddefnyddio i gadw cofnod o'ch datblygiad personol, gan ei diweddaru mor aml ag sy'n briodol, yn eich barn chi, neu'n unol â gofynion polisi eich gweithle.