By recording events we are able to work with an individual to identify their care and support needs. When a worker first starts in their role they would not know if any of the individuals they work with have any special needs or require a different type of approach due to not being able to hear, for example. The record must be precise and agreed with the individual who is accessing care and support. This requires the use of literacy and digital skills. The personal plan or care and support plan is a legal document; the individual has the right to see their records and can review these records frequently. When writing personal plans it is important to keep in mind who has the right to read these records and the importance of factual recordings.
Completing medical records, incident sheets and personal files, for example, all need good literacy, numeracy and digital competency skills. If any of these areas need developing, discussion with a manager can identify ways forward. This might be through formal training or shadowing another worker.
Trwy recordio digwyddiadau gallwn weithio ag unigolyn i nodi ei anghenion gofal a chymorth. Pan fydd gweithiwr yn cychwyn yn ei rôl yn y lle cyntaf ni fyddent yn gwybod a oes gan unrhyw un o'r unigolion y mae'n gweithio gyda hwy unrhyw anghenion arbennig neu a oes arno angen math gwahanol o ymagwedd oherwydd nad ydynt yn gallu clywed, er enghraifft. Rhaid i'r cofnod fod yn fanwl gywir a chael ei gytuno â'r unigolyn sy'n cyrchu gofal a chymorth. Mae hyn yn galw am ddefnyddio sgiliau llythrennedd a digidol. Mae'r cynllun personol neu'r cynllun gofal a chymorth yn ddogfen gyfreithiol; mae gan yr unigolyn yr hawl i weld ei gofnodion a gall adolygu'r cofnodion hyn yn aml. Wrth ysgrifennu cynlluniau personol mae'n bwysig cadw mewn cof pwy sydd â'r hawl i ddarllen y cofnodion hyn a phwysigrwydd cofnodion ffeithiol.
Wrth gwblhau cofnodion meddygol, dalennau digwyddiadau a ffeiliau personol, er enghraifft, mae angen sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol da ar bob un. Os oes angen datblygu ar unrhyw un o'r meysydd hyn, gall trafod â rheolwr nodi ffyrdd ymlaen. Gall hyn fod trwy hyfforddiant ffurfiol neu ddilyn gweithiwr arall.
Click on the answer you think is correct.
Cliciwch ar yr ateb cywir yn eich barn chi.
Anyone given authority to access electronic information should have a secure username and password. Used correctly, usernames and passwords ensure the security of personal and sensitive information, but a password must: Dylai fod gan unrhyw un y rhoddir awdurdod iddo gyrchu gwybodaeth electronig enw defnyddiwr a chyfrinair diogel. O'u defnyddio'n gywir, mae enwau defnyddwyr a chyfrineiriau yn sicrhau diogelwch gwybodaeth bersonol a sensitif, ond rhaid sicrhau'r canlynol mewn perthynas â chyfrinair: