Increasingly we become more aware of identity theft and how easy it is to part with information innocently which is later used illegally. With the use of mobile and internet use, information is now passed on at a greater speed.
Individuals in our care are not always aware of these dangers and are often more vulnerable to this type of abuse so health and social care workers need to take steps to safeguard the individuals’ personal information.
Rydym yn dod yn gynyddol ymwybodol o achosion o ddwyn hunaniaeth a pha mor hawdd ydyw i ddarparu gwybodaeth yn ddiniwed a gaiff wedyn ei defnyddio'n anghyfreithlon. Gan ddefnyddio ffonau symudol a'r rhyngrwyd, caiff gwybodaeth bellach ei throsglwyddo'n gyflymach.
Nid yw'r unigolion yr ydym yn gofalu amdanynt bob amser yn ymwybodol o'r peryglon hyn ac maent yn aml yn fwy agored i'r math hwn o gam-drin, felly mae angen i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gymryd camau i ddiogelu gwybodaeth bersonol unigolion.
Information handling involves the recording of accurate information in care and support plans, accident forms and personal records. It is important that we do not put our own views in this information, but state exactly what happened. If an individual is found lying on the floor and they were not seen falling, it would be inaccurate to state in the accident form that the individual had fallen, as we would not have witnessed this.
To ensure we protect confidentiality we need to store, or handle, these records safely. As we use care plans frequently we may forget the importance of their security. It is very important that after reading or recording in the notes we place them back in a safe place. The reasons for this are to ensure that those who are not authorised to read them, will not have access to them.
Mae'r broses o ymdrin â gwybodaeth yn cynnwys cofnodi gwybodaeth gywir mewn cynlluniau gofal a chymorth, ar ffurflenni damweiniau ac mewn cofnodion personol. Mae'n bwysig peidio â nodi ein safbwyntiau personol fel rhan o'r wybodaeth hon, ond yn hytrach, dylid datgan yn union beth a ddigwyddodd. Os deuir o hyd i unigolyn yn gorwedd ar y llawr ac na chafodd ei weld yn syrthio, byddai'n anghywir datgan ar y ffurflen damweiniau fod yr unigolyn wedi syrthio, gan na fyddem wedi gweld hynny'n digwydd.
Er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu cyfrinachedd, mae angen i ni storio'r cofnodion hyn, neu ymdrin â nhw, yn ddiogel. Gan ein bod yn defnyddio cynlluniau gofal yn rheolaidd, efallai y byddwn yn anghofio pwysigrwydd eu cadw'n ddiogel. Mae'n bwysig iawn, ar ôl darllen y nodiadau neu wneud cofnodion yn y nodiadau, ein bod yn eu dychwelyd i fan diogel. Gwneir hyn er mwyn sicrhau na fydd y rheini nad oes ganddynt awdurdod i'w darllen yn gallu cael gafael arnynt.
Information handling involves: Mae ymdrin â gwybodaeth yn cynnwys y canlynol: